Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

CYNLLUN GWELLIANNAU NEUADD TALSARNAU A'R CYLCH TACHWEDD 4ydd, 1978 

Bu cryn drafod yn ddiweddar ar gynllun o wella'r neuadd. Mae 'na anfodlonrwydd ers rhai blynyddoedd ynghylch adnoddau'r adeilad e.e. y gegin yn annigonol, y sustem wresogi, yr adnoddau atal tân, a'r angen am fwy o le i bobl eistedd. Cyfarfu'r is-bwyllgor ddechrau'r flwyddyn i drafod yr anghenion gyda'r pensaer. Derbyniwyd pedwar bras gynllun i'w trafod gan y pwyllgor llawn ac argymhellai dau o'r cynlluniau ail wneud y neuadd hefo lle i oddeutu 170 eistedd yn gyfforddus. 'Roedd yr amcangyfrif am y ddau gynllun tua £25,000. Penderfynwyd galw cyfarfod cyhoeddus i ofyn barn y trigolion. Penderfynodd y pwyllgor gwaith a ffurfiwyd dderbyn cynllun a olygai adeiladu neuadd newydd bron allan i gyfeiriad y Motel gan leoli'r llwyfan ar safle'r neuadd bresennol. Galwyd cyfarfod cyhoeddus arall, a derbyniwyd y penderfyniad. Ond daeth cynllun ag amcangyfrif manylach i law gan y pensaer a'r adeilad newydd yn debygol o gostio £35,000, ynghyd a rhyw £3,000 arall am ddodrefn. Pe gellid sicrhau pob grant bosib byddai'n rhaid i'r pwyllgor lleol ddod o hyd i rhyw £4,750 eu hunain. 'Roedd yn demtasiwn i barhau â'r gwaith, ond 'roedd y pwyllgor yn unfrydol o'r farn ei bod yn anheg i drosglwyddo baich ariannol mor drwm ar ysgwyddau'r trigolion. Teimlid hefyd nad oedd digon o gefnogaeth a brwdfrydedd ymysg yr ardalwyr.  Naw o'r trigolion a ddaeth i'r tri cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd, er i rybuddion gael eu hanfon i bob tÿ yn yr ardal cyn yr ail gyfarfod.

Bydd yn rhaid i'r pwyllgor yn awr ostwng eu gorwelion a mynd ymlaen gyda chynllun llai uchelgeisiol, ond diau y bydd rhai o'r pwyllgor neu eu disgynyddion rhywbryd yn y dyfodol yn cael lle i resymu na fodlonwyd cynllun gwelliannau Neuadd Talsarnau a Llandecwyn 1978.