ATGOFION gan y diweddar Mrs Myfi Jones, 9 Cilfor, Llandecwyn
YR HEN EFAIL UCHA' Daw aml i hen ddarlun yng nghalendr Llais Ardudwy a llawer o atgofion melys i mi, ac yn enwedig y darlun o hen efail Eisingrug neu'r 'Efail Ucha' fel 'roeddym ni'n ei galw adra. Awgrymodd Mathew Jones, Bryn Eithin, fy mod yn 'sgwennu pwt i'r Llais am fywyd prysur yr efail pan oeddem ni'n blant. Roedd gorfod cerdded gryn bellter yn ddyddiol yn beth cyffredin iawn yr adeg honno, a chofiaf fel y byddwn bob dydd, ar fy union o'r ysgol yn mynd â chinio i 'nhad a John David, gan gerdded a rhedeg bob yn ail ar hyd gwastad Fucheswen.
Wedi cyrraedd yr efail, caem eistedd ar hen setl hir a oedd yno a chael tamaid o'r lluniaeth. Er na chofiaf yn iawn gynnwys y fasged, 'roedd ynddi bob tro fara cartref blasus 'Prince House', gyda menyn Ffridd Fedw yn dew arno. Ambell dro, ni fyddai llefrith ar gael i'w roi yn y te, ac i mi'n eneth fach, roedd te heb lefrith fel y wermod. Ond eto, roedd rhyw swyn ryfedd o'i yfed o'r potyn bach pridd (hen bot jam). Dysgais yn yr ysgol y pennill Saesneg hwnnw -
"Under the spreading Chestnut Tree
The village smithy stands,
The smith a mighty man is he
With large and sinewy hands."