Dewiswch un o'r Categoriau isod
cliciwch ar teitl yr erthygl i ddarllen mwy
-
Atgofion am y Telynor Dall
Erthygl yn Llais Ardudwy - Ebrill 1979 PORTREAD - sgwrs a recordiwyd ar dâp, mis Tachwedd 1978 - atgofion personol am Dafydd Roberts -Telynor Dall Mawddwy gan Mr Dafydd Gwilym Williams, Tanymarian, Soar, Talsarnau.
-
Atgofion Nel Griffiths am Llenyrch
Mynd i Lenyrch yn 15 oed, wedi gweini cyn hynny bedair blynedd, ar ôl marw fy mam, cyn cyrraedd unarddeg oed. Llenyrch yn gartref bendigedig.
-
Capten Lewis Holland Thomas
Ychydig a wyddom am blentyndod cynnar Lewis Holland Thomas, ond gwyddom ei fod wedi’i eni yn Llanrwst yn 1812. Roedd ei deulu’n gysylltiedig â theulu’r Wyniaid ac arferai Lewis fynd ar wyliau i aros yng Nghastell Gwydir yn Nyffryn Conwy.
In Enwogion -
Cychod Cludo Llechi ar y Ddwyryd
Mae’n debyg na welwyd gymaint o fynd a dod i lawr i’r glastraeth rhwng Talsarnau ac Ynys Gifftan ers yr amser hwnnw pan gafwyd hyd i forfil fethodd ddychwelyd i’r môr gyda’r llanw beth amser yn ôl.
-
Dau'n Boddi ar y Traeth Bach.
'Baner ac Amserau Cymru', Dydd Mercher, Rhagfyr 17eg, 1856. TALSARNAU, - Cynhaliwyd trengholiad ddydd Gwener diwethaf o flaen Mr Griffith Jones Williams, trengholydd, ar ddau gorff, sef William Owens ac Edmund Jones, pa rai oedd yng ngwasanaeth L. H. Thomas Ysw., Cae'r ffynnon, y rhai a gafwyd wedi boddi wrth groesi y Traeth Bach.
-
Diwydiant Tywyrch Traeth Talsarnau
I’r sawl sydd yn adnabod ardal Talsarnau, mae’r rhan fwyaf o’r pentref wedi ei leoli ar waelod bryn serth. Mae’r brif stryd a llawer o adeiladau eraill gan gynnwys yr ysgol, y neuadd ac ati ychydig iawn yn uwch na lefel y môr ac er mwyn gwarchod yr ardal codwyd clawdd llanw fel amddiffynfa yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
-
Dr David Tecwyn Evans - Pregethwr, Darlithydd, Ieithydd
Ganed David Tecwyn Evans mewn bwthyn o'r enw Aberdeunant Uchaf ym mhlwyf Llandecwyn yn Ardudwy ar y 5ed o Ragfyr 1876.
In Enwogion -
E Morgan Humphreys
E. MORGAN HUMPHREYS - Y Lle Bum yn Gware Gynt - Rhai o atgofion yr awdur am ei blentyndod yn Nhalsarnau Ganed fi yn y Faeldref, yn Nyffryn Ardudwy, ac yno y treuliais y rhan fwyaf o ddeunaw mlynedd cyntaf fy mywyd. Y rhan fwyaf, ond nid y cwbl ; pan oeddwn ar fin bod yn bedair oed symudodd fy nhad i fyw i Gefn Gwyn, Talsarnau, a buom yno am dair blynedd, neu dair a hanner, cyn dychwelyd i'r Faeldref. Ac atgofion am Gefn Gwyn a'r Wlad o gwmpas ydyw fy atgofion clir cyntaf. O ben banc Cefn Gwyn gwelwch ar draws y Traeth Mawr a'r Traeth Bychan. Yn y blynyddoedd hynny gwelid cip ar fastiau'r Ilongau fel coedwig wrth…
In Enwogion -
Edmwnd Evans
Ymddangosodd yr erthygl yma yn y cylchgrawn ‘Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru Haf 2018, Rhif 9 – Bathafarn Bach’, a chafwyd caniatad yr awdur Angharad Thomas, i gynnwys ar Wefan Talsarnau lle mae llawer o hanes capeli ac eglwysi yr ardal wedi’u cofnodi. Hanes Capel Soar, Talsarnau Mor hawdd ydi cau Capel, mor anodd yw sefydlu un. Dyna oedd yn mynd drwy fy meddwl mewn oedfa gofiadwy yn Soar, Talsarnau ychydig ddyddiau cyn Nadolig 2017. Oedfa i gau’r capel ydoedd, ac os oedd yn achlysur trist i mi, roedd yn llawer tristach i’r rhai fu’n ei mynchu ers yn blant. Nid oedd dim o’i le ar yr adeilad, roedd wedi ei gadw’n dda ar hyd y blynyddoedd, ac roedd…
In Enwogion -
Eglwys Llandecwyn
EGLWYS LLANDECWYN EGLWYS LLANDECWYN (Ionawr 1983) "Hen eglwys wen, gwelais hi, A dwrn oes galed arni." (J.E.) Balch oeddwn o ddarllen yn rhifyn diwethaf o'r Llais fod symudiad ar droed gan y Cyngor Eglwysig i agor Cronfa i adgyweirio Eglwys Llandecwyn sy'n araf adfeilio.
-
Ellis Wynne Lasynys Fawr - Y Bardd Cwsg
Y Lasynys, cartref Ellis Wynne. Mae'r adeilad yn dyddio o tua 1600 ond cafodd ei adnewyddu'n sylweddol gan y llenor yn y cyfnod 1715-20.
In Enwogion -
Evan Francis Dyrnogia Bach
Evan Francis 1772 – 1857 Ganwyd Evan Francis yn 1772 yn Dyrnioga Bach, Talsarnau ym mhlwyf Llanfihangel y Traethau. Mae ei dad a’i fam wedi eu claddu ym mynwent Rehoboth, Harlech, ac ar y garreg fedd ceir y geiriau a ganlyn:“Francis Evans o Mochras, a fu farw Medi 23 1827. Hefyd Lowri Evans ei briod, a fu farw 12 Medi 1833”
-
Gwyneth Vaughan - Nofelydd, Bardd ac Ymgyrchydd
ANNIE HARRIET HUGHES : GWYNETH VAUGHAN (1852-1910) Nofelydd a bardd Cymreig oedd Annie Harriet Hughes, sy’n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol – Gwyneth Vaughan.
In Enwogion -
Hanes Diwygiad 1904-05 Capel Soar
Copi o erthygl yn y Gwyliedydd Hydref 2004 SOAR TALSARNAU 1804/1904 a PHETH O HANES DIWYGIAD 1904 - 05 Cynhaliwyd yr Oedfa Wesleaidd gyntaf yn ardal Talsarnau ar 4 Tachwedd 1804.
-
Hel Atgofion am Garej Talsarnau
ATGOFION y diweddar R Tecwyn Jones, 8 St James Drive, Bangor LLAIS 1981 Wrth ddod i mewn i bentref Talsarnau o gyfeiriad Maentwrog, y garej ar yr ochr dde sydd yn mynd a sylw rhywun gyntaf un.
-
Hen Deulu Iwan Morgan
Hen Deulu Iwan Morgan RHAI FFEITHIAU DIDDOROL AM DEULUOEDD CEFN TREFOR FAWR, TALSARNAU (a adnabyddwyd yn ddiweddarach fel Y TŶ MAWR) A’R FUCHES WEN FAWR (yn ystod y 18fed ganrif)
-
Hen Furddunod
Hen Furddunod yr Ardal Cystadleuaeth yng Nghyfarfod Capel Bryntecwyn Chwefror 5ed 1925 Hen Furddunod Llandecwyn a'r teuluoedd fu'n byw ynddynt olaf (gan y ddiweddar Esther Jones, Caerwych) (tynnwyd y lluniau yn ystod y 2000au)
-
Ieuan Jones - Bardd
Ganwyd ym 1924. Cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Talsarnau ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Y Bermo. Gadael Ysgol Bermo pan yn 14 oed oherwydd iddo golli cymaint o ysgol yn dilyn llawdriniaeth llid y berfeddlen (peritonitis). Cafodd le fel gwas yng Nghefn Trefor Isaf gyda William Evans. Yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Edward Lewis Griffiths, Tyín y Bwlch - sef tad y diweddar Iorwerth Griffiths. Oddi yno symudodd i weithio gyda Bob Roberts Merthyr, sef tad y Cynghorydd Caerwyn Roberts, ac yna yn ei dro aeth at John Hughes, Penbryn Pwll Du.Ym 1944, priodi gyda Tywyna Humphreys, Yr Onnen a chael ei gyflogi gan Idwal Jones Penybryn gan wneud eu cartref cyntaf yn y 'Lodge' Caerffynnon. Ganwyd…
In Enwogion -
J H Jones Golygydd Y Brython
Ganwyd yn Nhy ar y Graig yn Nhalsarnau ar Fai 29ain 1860 i William a Beti Jones. Garddwr oedd ei dad i Mr Barker, Glyn Cywarch.
In Enwogion -
John Kelt Edwards - Arlunydd
Ganed John Kelt Edwards ar 4.3.1875 yn un o 6 o blant i Jonathan a Margaret Edwards a gadwai siop Ironmongers o’r enw Berlin House ym Mlaenau Ffestiniog.
In Enwogion -
Llanw Mawr 1927 Atgofion
Mae yna ambell i ddigwyddiad sy'n llusgo'n hir yng nghof ardal. Digwyddiad felly i bobl Talsarnau, ger Harlech, yw storm Hydref, 1927, pan fylchwyd y morglawdd.
-
Llanw Mawr 1927 Atgofion Tecwyn Jones
Dyma gopi o lythyr a dderbyniwyd oddi wrth Mr Tecwyn Jones, 8 Heol Dewi, Bangor Ucha, Bangor, yn hel atgofion am y Llanw Mawr ac yntau yn fachgen 9 oed ar y pryd. Gyda diolch cynnes iawn iddo am gysylltu.
-
Llongddrylliad - Y Turkistan
Llong Hwyliau-Sgwar tebyg i hon fyddai'r "Turkestan" mae'n debyg. Cyfieithiad yw hwn o adroddiad gan Fanny ac Ethel Holland Thomas – merched Capten Lewis Holland Thomas o Gaerffynnon, Talsarnau – allan o’r llyfr “The Caerffynnon Story” a ysgrifenwyd gan Heulwen Isambard Owen a Hedydd Isambard Owen a gyhoeddwyd ym 1973.
-
Richard Arthur Warren Hughes - Nofelydd
Ei enw yn llawn oedd Richard Arthur Warren Hughes OBE (19/4/1900 – 28/4/1976). Ganwyd ef yn Weybridge, Surrey yn fab i Arthur Hughes, gwas sifil, a'i fam oedd Louisa Grace Warren oedd wedi ei magu yn Jamica.
In Enwogion -
Ted Breeze Jones - Naturiaethwr
Ganwyd Ted Breeze Jones yn 1929 yn ardal Cae Clyd, Manod, Blaenau Ffestiniog. Mynychodd ysgolion y Manod a Maenofferen cyn symud i Ysgol Ramadeg Ffestiniog ym 1940.
In Enwogion -
Trychineb y Fferi
Dydd Iau y 7fed o Awst 1862 roedd un o gychod fferi Rees Jones yn dychwelyd o Borthmadog i Harlech gyda naw o deithwyr a dwy hanner casgen o borter. Roedd y gwynt wedi codi'n eithaf garw o gyfeiriad y de-orllewin ond ni thybiai neb er hynny bod unrhyw berygl.
-
Yr Olygfa o Eglwys Llandecwyn
Ymddangosodd y gerdd yma o eiddo Esther Jones, (nee Williams), Caerwych, Llandecwyn yn Y Gwyliedydd Chwefror 1992. Cerdd arobryn Brontecwyn 1923.