Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Trip yr Henoed

Llais Ardudwy - Medi 1af 1978

Ar Orffennaf 22ain aeth llond bws ohonom ar daith flynyddol i bensiynwyr i Ynys Mon o dan ofal gofalus Mr a Mrs Meirion Jones, Bryngolau. Mawr ein diolch i Bwyllgor yr Henoed am y daith hon oedd y nawfed un i mi ei fwynhau (di enw).

Yn yr un rhifyn - Llongyfarchiadau i Mr a Mrs  Phillip Stokes, Cefn Gwyn, ar enedigaeth mab bychan yn ddiweddar.

Dymuniadau da i Pam Jones, 7, Cilfor sy'n cychwyn ar ei gyrfa fel gweinyddes ym mis Hydref yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl.