Carreg Fedd Hynafol Eglwys Llanfihangel y Traethau Ar un adeg yr oedd yr afonydd Glaslyn a’r Ddwyryd yn uno ger Eglwys Llanfihangel ac yn rhedeg i’r môr ar hyd Morfa Harlech. Soniwyd mai yn y cyfnod hwnnw yr adeiladwyd yr Eglwys i geisio, medde nhw, droi trigolion yr Ynys a'r ardal yn Gristnogion. Yr hyn sydd gywir ydyw i’r Eglwys gael ei hadeiladu fel capel anwes i blwyf Llandecwyn tua chanol y ddeuddegfed ganrif. Daeth Tecwyn Sant i’r ardal hon ar ddechrau’r ganrif a sefydlu eglwys yn y man lle saif Eglwys Llandecwyn heddiw. Nid oes eglwys arall yng Nghymru wedi’i chysegru i Decwyn Sant. Tu mewn i fynwent Eglwys Llanfihangel y Traethau, gyferbyn â drws Eglwys Llanfihangel mae carreg fedd hynafol a diddorol sydd wedi denu sylw llawer o bobl yn y gorffennol gan ei bod yn dyddio’n ôl i 1150. Adeiladwyd rhan gyntaf Glyn Cywarch yn 1616. Yn ol i Llinell Amser Dorti'r Wrach Yn ôl y sôn, roedd Dorti a ystyriwyd yn wrach yn byw yn ardal Llandecwyn yn tynnu at ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Mari'r Fantell Wen Cyfrinwraig a sefydlodd gwlt Cristionogol yng ngogledd-orllewin Cymru yn ail hanner y 18g oedd Mary Evans, a adnabyddid fel Mari'r Fantell Wen (1735? – 28 Hydref 1789). 1802 - Cornelius Varley yn peintio llun Ty Gwyn Mawr yn dangos adeiladu llongau yn digwydd yno. Gellir gweld Castell Harlech yn y cefndir. Codi Clawdd Llanw o Ty Gwyn y Gamlas at Pont y Glyn, Plas Glyncywarch ac o Glanywern hyd at ardal Briwet. Doedd yno ddim pont bryd hynny. Rhaid oedd croesi'r Afon Dwyryd dros un o'r sarnau pan oedd y llanw'n isel. Codi Capel Bethel. Sefydlwyd achos Y Methodistiaid Calfinaidd yn 1797. Codwyd y capel yn 1812 ac ail godi yn 1865. Cauwyd y capel yn 1980. Afon Dwyryd yn symud gwely i'r gogledd o Ynys Gifftan. Cyn hynny roedd hi gymaint haws i fynd i Ynys Gifftan o Abergafran nag o Dalsarnau neu Llanfihangel y Traethau. Tybed ai dyna pam y cafwyd hyd i un o Gychod Cario Llechi Afon Dwyryd wedi ei gladdu yn y tywod yn 1986 i'r de o Ynys Gifftan? Enwi'r dafarn yn Nhalsarnau yn "The Ship Aground" Llun cynnar o'r dafarn Ship Aground. Adeiladwyd y lein rhwng 1833 a 1836 i gludo llechi o'r chwareli o dref fewndirol Blaenau Ffestiniog i dref arfordirol Porthmadog lle byddid yn eu llwytho ar longau. 50 o gychod llechi'r Ddwyryd wedi cario 19,280 tunnell o lechi i lawr yr Afon Ddwyryd i Ynys Cyngar Wrth gario cerrig i Dalsarnau i godi Plas Caerffynnon, bu anffawd difrifol. Boddodd dau berson a chollwyd dau geffyl wrth geisio croesi'r traeth a'r llanw wedi eu dal. 1856 - Codi Plas Caerffynnon gan Capten Lewis Holland Thomas ar safle ei hen gartref pan yn blentyn. 1861 - Codi Capel Llenyrch. Mae Tecwyn Evans yn ei lyfr yn cyfeirio at tua 80 o bobl yn mynychu'r oedfa a thua 50 yn mynd i'r Ysgol Sul. 1862 - Trychineb pan gollwyd wyth o fywydau wrth i gwch fferi yn cario pobl o Borthmadog i Glogwyn Melyn droi drosodd mewn tywydd garw gwyntog. 1867 - Agor Ffordd Isaf A496 Rhwng Harlech a Maentwrog 1876 - Llongddrylliad ar Draeth Harlech - Llong hwyliau Y Turkestan wedi mynd ar y tywod a methu dod yn rhydd. Llong newydd ar ei hail fordaith yn dychwelyd i borthladd Lerpwl. Ceisiwyd ei hachub ond er pob ymdrech ni lwyddwyd. 1892 - 1928 - Gweithfeydd Mango ar Y Rhinogydd yn gweithio ac yn cyflogi dynion lleol. 3 chwarel Moel Ysgyfarnogod wedi tyrchu 2,168 tunnell o'r manganese yn y cyfnod 1892 - 1897 1906 - Agor Ysgol Wrth Raid Llandecwyn. Yr ysgol gyntaf o'i bath yng Nghhymru 1913 - Sefydlu Cymdeithas Cydweithredol Talsarnau - Y Co-Op neu'r Coparet. 1927 - Llanw Mawr Talsarnau Mae yna ambell i ddigwyddiad sy'n llusgo'n hir yng nghof ardal. Digwyddiad felly i bobl Talsarnau, ger Harlech, yw storm Hydref, 1927, pan fylchwyd y morglawdd. 1948 - Codi Stâd Tai Cilfor. Yn ôl y sôn, awgrymwyd yr enw Cilfor gan Bob Owen Croesor. 1953 - Cychwyn Diwydiant Torri Tywyrch. Daeth y diwydiant hwn i'r amlwg drwy gyflenwi tywyrch ar gyfer lleiniau bowlio a chaeau pel droed yn eang drwy Gymru a Lloegr. Fu ei oes ddim yn hir a daeth i ben yn 1962. 1959 - Agor Ysgol Gynradd Newydd Talsarnau. Mr Bennet Williams oedd y prifathro. 1962 - Codi Peilonau Dros Y Ddwyryd. Bu i'r gwaith barhau dan 1965. 1980 - Sefydlu Capel Newydd - Eglwys Efengylaidd Ardudwy.
1150 - Carreg Fedd Hynafol
1616 - Glyn Cywarch (mwy...)
1760 - Dorti'r Wrach
1774 Mari'r Fantell Wen
1802 - Adeiladu Llongau
1810 - Codi Clawdd Llanw
1812 - Codi Capel Bethel
1816 - Afon Dwyryd
1817 - Ship Aground
1836 - Agor Lein Bach Ffestiniog
1837 - Cychod Llechi
1856 - Boddi ar y Traeth
1856 - Codi Plas Caerffynnon
1861 - Codi Capel Llenyrch
1862 - Damwain Fferi
1867 - Agor Ffordd Isaf A496 Rhwng Harlech…
1876 - Llongddrylliad ar Draeth Harlech
1892 - 1928 - Gweithfeydd Mango
1906 - Agor Ysgol Wrth Raid Llandecwyn
1913 - Sefydlu Cymdeithas Cydweithredol Talsarnau
1927 - Llanw Mawr Talsarnau
1948 - Codi Stâd Tai Cilfor
1953 - Cychwyn Diwydiant Torri Tywyrch
1959 - Agor Ysgol Gynradd Newydd Talsarnau
1962 - Codi Peilonau Dros Y Ddwyryd
1980 - Sefydlu Capel Newydd
Llinell Amser
In 1800 a Chynt
In 1800 a Chynt
In 1800 a Chynt
In 1800 a Chynt
In 1800-1850
In 1800-1850
In 1800-1850
In 1800-1850
In 1800-1850
In 1800-1850
In 1800-1850
In 1851 - 1900
In 1851 - 1900
In 1851 - 1900
In 1851 - 1900
In 1851 - 1900
In 1851 - 1900
In 1851 - 1900
In 1901 - 1950
In 1901 - 1950
In 1901 - 1950
In 1901 - 1950
In 1951 - 2000
In 1951 - 2000
In 1951 - 2000
In 1951 - 2000