Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Llanw Mawr002

1927 - Llanw Mawr Talsarnau

Mae yna ambell i ddigwyddiad sy'n llusgo'n hir yng nghof ardal. Digwyddiad felly i bobl Talsarnau, ger Harlech, yw storm Hydref, 1927, pan fylchwyd y morglawdd.

Ysgrifenwyd yr atgofion hyn ym 1977 hanner can mlynedd ar ol y digwyddiad.

Boddwyd cannoedd o anifeiliaid, difrodwyd eiddo, ond yn wyrthiol ni chollodd yr un o'r trigolion ei fywyd.

Roedd hynny union hanner can mlynedd yn ol, ac i gofio'r achlysur cynhaliwyd rhaglen nodwedd gan Adran ac Aelwyd yr Urdd, Talsarnau, yn y neuadd bentref nos Iau diwethaf. Bu'r CYMRO draw yn yr ardal, yn holi am atgofion rhai o'r to hyn, ac yn cael sgwrs gyda rhai o'r bobl a drefnodd y raglen nodwedd.

Pwt o bentref rhyw bedair milltir go dda o Harlech yw Talsarnau. Mae wedi ei godi ar dir gwastad ychydig yn uwch na lefel y môr. Fel Cantre'r Gwaelod gynt, bu raid codi morglawdd i amddiffyn Talsarnau rhag cynddaredd y môr.

Diwrnod garw oedd dydd Gwener, Hydref 28, 1927. Roedd y gwynt yn ubain a'r môr yn corddi. Felly roedd hi ar draws y wlad. Ffyrnigodd y storm at yr hwyr, gan gyrraedd ei hanterth rhwng naw a deg o gloch y nos. Ni welodd hyd yn oed ddiwygiad 1905 y fath wynt nerthol a llifeiriant mor ysgubol.

DIODDEF WAETHAF

Chwipiodd ar draws y wlad yn gyffredinol, ond yn y gogledd ymddengys mai Bae Aberteifi a ddioddefodd waethaf. Bu grym y dwr a'r gwynt yn ormod i'r morglawdd yn Nhalsarnau ac yno y gwnaed y difrod mwyaf. Collwyd a difethwyd llawer o anifeiliaid ac eiddo. ond drwy ryfedd wyrth ni chollwyd yr un bywyd dynol. Er hynny cafodd sawl un ddihangfa gyfyng

DIHANGFA GYFYNG

Profiad felly a gafodd Humphrey Williams a'i fab a'r mab yng nghyfraith. Cawsant eu dal mewn cae o dan y stesion, ond o weld y perygl dringodd y tri i ben tas wair. Cariodd rhyferthwy'r môr y ty gwair a'r cwbl, a phan laesodd y dwr gorweddodd y to ar y gwair ac ni chafodd neb ei anafu.
Trawodd y genlli Llys Myfyr heb rybudd. Torrodd i mewn drwy'r cefn a ffôdd Mrs Evans allan drwy'r ffrynt ac at dy Mrs Evans, Ty Capel. Roedd y dwr at ei hysgwyddau a phan agorwyd y drws, cariwyd hi i mewn ar flaen y lli. Roedd John Jones, Bryn Street wrth ei waith yn glanhau'r ysgol a chafodd ei ddal yno gan y storm. Dihangodd drwy ddringo i ben un o'r trawstiau, a llwyddodd i ganu cloch yr ysgol i roi gwybod ei fod yn ddiogel. Yno y bu dan ddau o'r gloch y bore.

AR BEN POLYN LAMP

Cafodd Mr William Owen, Penbryn, ei ddal gan y llanw, a bu raid iddo ddringo polyn lamp stryd ger Neuadd Bentref Talsarnau. Bu'n hongian yno a'i draed yn y dwr nes iddo gael ei achub.
Y bore canlynol y gwelwyd ôl yr alanast. Anifeiliaid yn gelanedd, teisi gwair wedi eu chwalu a'u cario bellter o'u cynefin; waliau wedi dymchwel a choed wedi disgyn.
Roedd llawer o'r tai, y capel a'r ysgol dan ddwr a gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod wedi ei achosi.

TORCALONUS

"'Roedd yr olygfa yn sicr yn un dorcalonus iawn", meddai Celt Roberts, prifathro'r ysgol leol ac un o'r rhai fu'n brysur yn paratoi y rhaglen nodwedd ar achlysur hanner can mlwyddiant y trychineb. "O edrych yn ol heddiw, darn anffodus o hanes y cylch ydi o a phrin lond dwrn o drigolion y fro yn cofio'r hanes. Rhai o'r to hyn yn cofio'r digwyddiad yn dda ac eraill dim ond rhyw gof plentyn", meddai.

I MEWN DRWY FFENEST Y LLOFFT - HANES MRS SHANW WILLIAMS (LLUN)

Gweini yn Dorchester roedd Mrs J C Williams (Mrs Shanw Williams fel y caiff ei hadnabod yn y gymdogaeth) bryd hynny. Roedd hi wedi dod i aros gyda ffrind iddi i Ddinbych ac wedi penderfynu hel ei thraed am ei chartref Ty'n y Ffridd, Yr Ynys, Talsarnau.
"Mi roedd hi wedi bod yn storm ofnadwy ar draws y wlad", meddai "a dwi'n cofio cyrraedd Corwen hefo tren a gweld y gwartheg yn y ffosydd". Ymlaen wedyn ar y tren i Ddolgellau a'r gorsaf feistr yn gorchymyn i bawb ddod allan o'r tren a'u gyrru i westy yn y dref.

Gwyddai mai ochrau'r Bermo a Harlech oedd wedi ei chael hi waethaf gan y storm, ac yn naturiol roedd yn poeni am ei rhieni. "Mi lwyddais i ddal bys i'r Bermo yn y diwedd, a cherdded o'r fan honno am adref". Roedd yna olygfa ddifrifol yn ei disgwyl hi yn Llanbedr - defaid wedi boddi a llanast ofnadwy. "Pan gyrhaeddais i dop Harlech ag edrych am fan hyn, yr unig beth a welwn i oedd topia'r coed".


Er i sawl un ei siarsio i beidio mynd ymhellach, ymlaen yr aeth Mrs Williams. Cerdded drwy'r ffordd at ei phengliniau mewn dwr a chodi i'r caeau bob yn hyn a hyn nes cyrraedd Ty'n y Ffridd.
Gweld wedyn bod ysgol yn erbyn ochor y ty, gweiddi ar ei mam a chael rhyddhad o weld fod popeth yn iawn ac i mewn â hi drwy ffenest y llofft. "Roedd dwr wedi cyrraedd naw step i fyny'r grisiau bryd hynny", meddai.

EI GENI MEWN STORM (LLUN)

Ychydig funudau ar ol hanner nos ar y noson fythgofiadwy honno yn Hydref 1927 ganwyd merch yn Nhy Newydd, Yr Ynys. Roedd y nyrs a'r meddyg lleol yn y ty y noson honno. Roedd Mrs Roberts, Ty Newydd, wedi golygu enwi'r ferch yn Mary Gale, ond awgrynmodd y meddyg yr enw 'Mordon' i goffau y noson.


Yno hyd y dydd heddiw mae Miss Mary Mordon Roberts yn byw. "Yn ol yr hanes mi roedd chwaer mam o'r Amwythig, wedi dod i aros yma ym ychydig, ac mi oedd y nyrs yma hefyd", meddai Miss Roberts. "Roedd hi wedi bod yn stormus ers oriau. Mi glywodd fy nhad rhyw dwrw tu allan i'r drws, a phan agorodd o mi ddaeth y dwr i mewn yn un fflyd. Mae'n debyg fod yna tua tair troedfedd a hanner o ddwr yn y ty, a mi roth y tân allan"

.
Mudodd y nyrs a'i modryb i'r llofft ac aeth y tad i lawr i waelod yr ardd i geisio achub y ddau fochyn. "Mi ddaeth a'r ddau i'r ty a'u sodro nhw ar y bwrdd ynghanol y llestri swper", meddai Miss Roberts, "ac yno y buon nhw tan y bore wedi llwyr ddiffygio".

PYSGOTA WOODBINES O'R DWR - (Hanes William Defi Jones - Wil Dei)

William Defi Jones - Wil Dei i bawb yn yr ardal, sy'n byw yn Harlech bellach ond yn hannu o Dalsarnau, oedd y ddolen gyswllt rhwng yr eitemau yn y Rhaglen Nodwedd. Saith oed oedd o pan ddaeth y llanw mawr ac yn byw yn 5 Bryn Street, Talsarnau.
"Un o'r pethau dwi'n ei gofio am y digwyddiad oedd gweld pacedi sigraets yn nofio ar wyneb y dwr bore wedyn. Pacedi dwy o Woodbines oedden nhw bryd hynny - a dwi'n cofio ni'r hogia' yn eu pysgota nhw allan o'r dwr a mynd a nhw adra' i'w sychu yn y popty. Dwi'n smocio byth oddiar hynny", meddai.

Rhestr Llinell Amser