Dorti'r Wrach
Yn ôl y sôn, roedd Dorti a ystyriwyd yn wrach yn byw yn ardal Llandecwyn yn tynnu at ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
Roedd yn arferiad bryd hynny os oedd amheuaeth ynglyn â unrhyw ddigwyddiadau amheus mewn ardal, bod hawl gan bobl i roi prawf i ddangos os oedd gwraig, yn wrach ai peidio.
Rhoddwyd hi mewn casgen ar ben Moel Tecwyn a'i gollwng dros y dibyn mewn ymgais i brofi ei bod yn wrach. Yn ôl y sôn, mae ei bedd ar lan Llyn Tecwyn Uchaf ac os yn mynd heibio, mae gofyn rhoi carreg wen ar ei bedd - i gadw draw unrhyw ddrygioni!