Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Carreg Fedd Hynafol Eglwys Llanfihangel y Traethau

Ar un adeg yr oedd yr afonydd Glaslyn a’r Ddwyryd yn uno ger Eglwys Llanfihangel ac yn rhedeg i’r môr ar hyd Morfa Harlech. Soniwyd mai yn y cyfnod hwnnw yr adeiladwyd yr Eglwys i geisio, medde nhw, droi trigolion yr Ynys a'r ardal yn Gristnogion.  Carreg fedd2 Yr hyn sydd gywir ydyw i’r Eglwys gael ei hadeiladu fel capel anwes i blwyf Llandecwyn tua chanol y ddeuddegfed ganrif. Daeth Tecwyn Sant i’r ardal hon ar ddechrau’r ganrif a sefydlu eglwys yn y man lle saif Eglwys Llandecwyn heddiw.

Nid oes eglwys arall yng Nghymru wedi’i chysegru i Decwyn Sant.   Tu mewn i fynwent Eglwys  Llanfihangel y Traethau,   gyferbyn â drws Eglwys Llanfihangel mae carreg fedd hynafol a diddorol sydd wedi denu sylw llawer o bobl yn y gorffennol gan ei bod yn dyddio’n ôl i 1150.

Dyma fel mae’r ysgrif Lladin sydd arni. HI (c) EST SEPULECRU (m) WLEDER MAT(r)IS ODELU Q (n) IP (r) EDIVICAV (it) HANC EC (c) L (esi) A (ni) IN TE (m) P (a) R (a) R (e) EWINI REG (is). Mae’n dweud – ‘Dyma lle y gorwedd Wleder mam Odeleu adeiladodd yr eglwys hon gyntaf yn amser y Brenin Owain.’ Ni wyr neb am Wleder nac Odeleu ond y Brenin Owain oedd Owain Gwynedd.   Mae’r garreg hon yn bwysig am dri rheswm. a) Noda’r cyfnod yr adeiladwyd yr eglwys gyntaf. b) Dyma’r unig garreg o’i bath ym Meirionnydd ac nid oes ond deg o’i bath yng Nghymru. c) Mae’n gofnod cyfoes o wr amlwg yn hanes Cymru

(Diolch am ganiatad Mathew John Jones i gynnwys y testun uchod)        

 

Rhestr Llinell Amser