Ymddangosodd yr erthygl yma yn y cylchgrawn ‘Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru Haf 2018, Rhif 9 – Bathafarn Bach’, a chafwyd caniatad yr awdur Angharad Thomas, i gynnwys ar Wefan Talsarnau lle mae llawer o hanes capeli ac eglwysi yr ardal wedi’u cofnodi.
Hanes Capel Soar, Talsarnau
Mor hawdd ydi cau Capel, mor anodd yw sefydlu un. Dyna oedd yn mynd drwy fy meddwl mewn oedfa gofiadwy yn Soar, Talsarnau ychydig ddyddiau cyn Nadolig 2017.
Oedfa i gau’r capel ydoedd, ac os oedd yn achlysur trist i mi, roedd yn llawer tristach i’r rhai fu’n ei mynchu ers yn blant. Nid oedd dim o’i le ar yr adeilad, roedd wedi ei gadw’n dda ar hyd y blynyddoedd, ac roedd arian wedi ei wario arno. Yn bwysicach fyth, yr oedd y gynulleidfa yn awyddus i’w achos barhau. Na, rhyw fân reolau fu’n gyfrifol am ei gau, ac wedi cloi’r drws am y tro olaf, mae andros o lot o hanes yn cael ei golli. Bydd ar gof a chadw y gweddill ffyddlon, ond wedi i’r genhedlaeth hon fynd heibio, dyna hi wedyn.
Mae eisiau mynd yn ôl yn go bell i gyfnod ei sefydlu, mor bell yn ôl â marw John Wesley. Cwta bymtheg mlynedd wedi ei farw, roedd pregethwr Wesleiadd wedi dod i bregethu i ardal Talsarnau, a hogyn ifanc 13 oed gafodd y dasg o fynd o amgylch y tai i hysbysu’r trigolion am yr oedfa. Gwn mai Edmund Evans oedd ei enw, gan ei fod yn hen, hen, hen daid i mi. Yn Ty’n y Groes, Brontecwyn (neu Bryn y Bwa Bach) y cynhaliwyd yr oedfa, ym mis Tachwedd 1804. Rhaid bod y bregeth wedi plesio, ac wedi ennyn rhyw dân yng nghalonnau’r gwrandawyr, gan iddynt benderfynu codi capel Wesleiadd. Rhif yr aelodaeth oedd 45. Ymhen ugain mlynedd, roedd capel bach wedi ei godi, a’r Capten Griffith Roberts, Cefn Trefor Isaf ymgymrodd â’r gwaith, ac fe’i hagorwyd ar Orffennaf 2il 1824. Ar y llechen ar ei dalcen roedd y geiriau, ‘Cofiwch wraig Lot’. Mae’n amlwg mai tua’r dyfodol oedd golygon y rhain.
Ffynnu wnaeth yr achos, ac ymhen pymtheg mlynedd roedd y capel yn llawer rhy fach, a’r aelodaeth yn gant. Codwyd capel newydd dros y ffordd ym 1839, ac fe’i helaethwyd ym 1863, pan oedd rhif yr aelodaeth yn 170, wedi diwygiad ’59. Sut oedd cymuned fechan, wledig, dlawd yn gallu gwneud hyn? Doedd dim grantiau Loteri i’w cael yn y dyddiau hynny. Yn syml iawn, roeddent yn torchi eu llewys ac yn gwneud y gwaith eu hunain, ac mae gwers inni yn y dyddiau presennol yn y stori hon. ‘Cafwyd yr holl ddefnyddiau a’r cludiad yn rhad gan ffermwyr caredig yr ardal’ meddai’r cofnod. Fel y dywed Edmund Evans ei hun, ‘Cludasant (trigolion yr ardal) y cyfan ato yn goed, calch a cherrig yn rhad. Boed gogoniant i Dduw’. Mae hyn yn fwy o ryfeddod byth pan sylweddolwch faint y capel. Yr hyn ddaw i’m cof yw’r lluniau ym Meibl y Plant ers talwm pan oedd gweithwyr yr Hen Destament yn chwysu wrth lusgo meini mawr i godi teml. Mae Soar yn anferth.
Beth ddaeth o’r hogyn bach fu’n llatai? Daeth yn bregethwr Wesla (cynorthwyol) ei hun, gan grwydro o fan i fan yn lledu’r gair, ac yn llatai dros Grist. Gwyddwn iddo gael ei gladdu yn Soar, a thair blynedd yn ôl, euthum i’r fynwent efo’n rhieni i chwilio am y bedd, yn aflwyddiannus. Gan mod i o natur styfnig, dychwelais yno drannoeth efo offer garddio, ac yn y diwedd, dan y drain a’r mieri, fe’i canfyddais ymysg beddi hynaf y fynwent. Arno, cyfeirir at Edmund Evans fel ‘Utgorn Meirion’ gan ddweud iddo bregethu dros 13,000 o weithiau yn ystod ei oes, cyn iddo farw ym 1864. Gwyddom hanes ei fywyd yn bur dda gan iddo gadw dyddiadur manwl, ac mae hwnnw i’w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Un o’i hanesion hynod oedd mai fo oedd y gweinidog oedd yn bresennol pan grogwyd Dic Penderyn. Roedd unarddeg mil o bobl wedi arwyddo deiseb i ddatgan fod Dic Penderyn wedi ei gyhuddo ar gam yn dilyn terfysgoedd Merthyr yn 1831. Y cyhuddiad oedd iddo drywanu milwr, ond fe’i cafwyd yn euog. Aeth Edmund Evans i’w gell a gweddio efo Dic Penderyn am y tro olaf. Ni allaf ddychmygu sut beth yw ceisio cysuro llanc dwy ar hugain oed, efo gwraig ifanc a babi, sydd ar fin wynebu crocbren. Wn i ddim ychwaith pam mai pregethwr o Feirion oedd yn bresennol efo Dic Penderyn, yn hytrach na phregethwr lleol. Awgrymodd rhywun na fyddai’n ddiogel i rywun lleol gysylltu ei hun â’r achos, ac roedd chwaer Dic wedi priodi gweinidog Methodist, felly efallai fod yr awgrym yn gwneud synnwyr.
Yn festri Capel Soar yr oedd darlun olew o Edmund Evans, ac englyn gan Elis Owen, Cefnymeusydd,
Cennad Hedd: ei fedd wyf fi – yn Soar Y mae’r Sant yn tewi; I gannoedd y bu’n gweini; Gwaed y Groes i gyd ei gri. |
Pan oedd Diwygiad 1904 yn ei anterth, roedd aelodau Soar eisiau dathlu canmlwyddiant yr achos, a’r bregeth gyntaf honno yn Ty’n y Groes. Rhaid oedd codi arian, ac unwaith eto, gwneud y gwaith eu hunain wnaethon nhw. Pedwar can punt roedden nhw eisiau ei godi (sy’n nes at £45,000 yn arian heddiw). Trefnwyd ‘Noddachfa Fawreddog’, sef bazaar, ond roedd i bara tridiau! Digwyddodd hyn wythnos cyn y Nadolig, ac roedd pedair stondin efo enwau crand, ond yn Saesneg – ‘Moelwyn Stall’, Dwyryd Stall’ ac roedd yna Refreshment Stall’. Rhaid eu bod yn stondinau go helaeth gan fod pymtheg o bobl yn gyfrifol am bob stondin, ac mae eu henwau a’u cyfeiriadau wedi ei nodi. Gwn hyn gan fod gen i gopi o’r rhaglen, ac Edmund Evans (y fenga) – ŵyr Utgorn Meirion, oedd yr ysgrifennydd. Yr hyn na wn yw beth gai ei werthu ar y stondinau. Rhaid fod y cwbl wedi gwerthu achos llwyddwyd i godi’r arian.
Efo’r elw, codwyd tŷ gweinidog hardd, Bryn Awel, helaethwyd y fynwent a chlirwyd y ddyled ar Seion. Efallai fod y cyfan wedi bod yn ormod i’r ysgrifennydd, gan iddo fudo i’r Amerig yn fuan wedyn. Ond arhosodd ei chwsaer, Jane Ellen, yn y fro, a hi oedd organyddes y capel. Un Sul, roedd pregethwr ifanc o’r enw R Môn Hughes yn pregethu, a syrthiodd y ddau mewn cariad. Nhw oedd rhieni fy nhaid. Fe welwch felly pam fod Soar yn rhan go bwysig o hanes ein teulu ni. Yn y sedd fawr, roedd cadair gan Jane Ellen er cof am ei rhieni. Roedd honno ymysg y pethau a symudwyd o’r capel wedi’r oedfa olaf.
Ond i fynd yn ôl at Ddiwygiad 1904. Yn y Gwyliedydd ym mis Hydref 2004, cafwyd erthygl gan Emrys Jones yn trafod effaith y cyfnod hwnnw ar ei fam, Maggie Gwyneth Jones, a oedd yn chwech oed ar y pryd. Roedd ei rhieni wedi mynd i’r Cyfarfod Gweddi nosweithiol yn Soar gan ei gadael hi efo’i chwaer wyth oed a’i brawd pedair oed adre. Pan aeth ei brawd i grio yn ofnadwy, lapiodd ei chwiroydd ef mewn siol, a lawr a nhw i’r capel. Gan fod y cwrdd heb ddod i ben, aethant â’r bychan i’r Tŷ Capel lle syrthiodd i gysgu. Pan aeth y ddwy chwaer i’r capel, roedd llond y lle o bobl a phlant yn gweddio ar draws ei gilydd ac yn gweiddi, “Haleliwia, Bendigedig ar ei Ben bo’r Goron”. Er ei bod yn ddeg yn nos, parhaodd hyn am awr arall. Gadawodd y teulu bach am unarddeg, ond ar y ffordd gwelsant hen wreigen yn deud, “Ewch yn ôl i’r capel. Mae goleuni wedi dod fel bwa dros y capel.” Yn eu hôl yr aethant i barhau â’r gorfoleddu.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd Emrys ei hun yn blentyn, a mynnai ef fod y cof am y Diwygiad yn dal yn fyw iawn, ac y caent Gyfarfod Gweddi amser chwarae ar yr iard. Wrth fynd i hel priciau, cofiai Emrys yr hogiau yn canu “Ar ei ben bo’r Goron a Diolch Diolch iddo”. Meddai Emrys, “Os wyf yn cofio’n iawn, yn Egryn ger y Dyffryn y dechreuodd y Diwygiad. Roedd cannoedd yn rhoi ei hunain o’r newydd i’r Arglwydd ac ni chlywyd erioed weddio tebyg.” Ac fel hyn y dywedodd y Parch D Tecwyn Evans yn ei gyfarfod olaf yn y Penrhyn, “Roedd y llen yn denau, a’r Nef yn agos iawn atom.”
Tawelodd y gweddiau yn Soar, Talsarnau ac mae cau’r drysau yn ddiwedd trist i’r stori. Ie, anodd yw sefydlu achos, ond cam go hawdd gan rai yw ei gau. Gawn ni ddiolch i ffyddloniaid Soar am ei gynnal gyhyd, a gobeithio y caiff yr adeilad ei warchod, ac y caiff y gynulleidfa aros gyda’i gilydd i barhau i addoli.