Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Croeso i Dalsarnau

Talsarnau yw'r pentref sy'n ganolbwynt i'r ardal ac wedi ei leoli ar y briffordd A496 rhwng Harlech a Maentwrog. I'r gogledd mae Afon Dwyryd a mynyddoedd Y Rhinogydd i'r de. Yn ffinio â'r pentref megis, mae nifer o dreflannau llai, sef Eisingrug, Glanywern, Llandecwyn, Yr Ynys a Soar.  mwy amdanom nii...

Hanesion y Pentref

Archif Lluniau Talsarnau

Cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol Talsarnau dros y ganrif ddiwethaf, yn dangos bywydau beunyddiol ei thrigolion a chofnod darluniadol o strwythur a fframwaith y gymuned. Mae mwyafrif o'r lluniau wedi eu rhoi gan aelodau o'r gymuned, ac fe'u trefnir mewn albymau ar wahân. Mae pob llun wedi'i enwi a'i gapsiynu gyda help a chymorth pobl lleol.

flickr baner albwm


 

Dogfennau Hanesyddol Ardal Talsarnau

bookshelfC

Enwogion Pentref Talsarnau a'r Cylch

Gwybodaeth am bobl nodedig wnaeth gyfraniad arbennig i'r ardal yn ystod eu cyfnod.

Busnesau a Gwasanaethau Lleol



 

 

Mewn Argyfwng - Peiriannau Diffibriliadur

Fideos Lleol Talsarnau a'r Cyffiniau

Mari

Mari'r Fantell Wen

Cyfrinwraig a sefydlodd gwlt Cristionogol yng ngogledd-orllewin Cymru yn ail hanner y 18g oedd Mary Evans, a adnabyddid fel Mari'r Fantell Wen (1735? – 28 Hydref 1789).

Ein prif ffynhonnell am ei hanes yw'r llyfr Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhos-lan.

Roedd Mari'n enedigol o Ynys Môn ond ymsefydlodd ym mhlwyf MaentwrogGwynedd. Dywedir iddi adael ei gŵr a chanlyn gŵr priod arall a chael merch ganddo.

Roedd hi'n credu ei fod wedi ei dyweddïo â Iesu Grist a bod unrhyw beth a wneid er ei mwyn hi yn gyfystyr â gwenud hynny ar ran yr Iesu ei hun. Ymunodd nifer o bobl o'r hen Sir Gaernarfon yn ei chwlt yn enwedig yn ardaloedd FfestiniogPenmachno a chyffiniau Harlech yn Ardudwy. Mae'n bosibl fod gorhendaid T. Gwynn Jones, gŵr o Benmachno, yn un o ddilynwyr Mari.

Fel dilynwyr y broffwydoles Seisnig Joanna Southcott, credai ei dilynwyr na fyddai hi byth yn marw. Trefnwyd priodas a neithior rhyngddi â Iesu Grist yn Ffestiniog a daeth cannoedd o bobl yno. Gwisgodd Mari fantell ysblennydd, yn rhodd gan ei dilynwyr. Disgrifir hyn fel "oferedd" - cynhaliwyd y briodas ar y Sabbath - ac "ynfydrwydd" gan Robert Jones yn Nrych yr Amseroedd.

Bu farw Mari yn 1789 yn Nhalsarnau. Gwrthododd ei dilynwyr gredu'r ffaith a chadwyd ei chorff am hir cyn ei gladdu o'r diwedd ym mynwent eglwys Llanfihangel-y-TraethauMeirionnydd.