Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Croeso i Dalsarnau

Talsarnau yw'r pentref sy'n ganolbwynt i'r ardal ac wedi ei leoli ar y briffordd A496 rhwng Harlech a Maentwrog. I'r gogledd mae Afon Dwyryd a mynyddoedd Y Rhinogydd i'r de. Yn ffinio â'r pentref megis, mae nifer o dreflannau llai, sef Eisingrug, Glanywern, Llandecwyn, Yr Ynys a Soar.  mwy amdanom nii...

Hanesion y Pentref

Archif Lluniau Talsarnau

Cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol Talsarnau dros y ganrif ddiwethaf, yn dangos bywydau beunyddiol ei thrigolion a chofnod darluniadol o strwythur a fframwaith y gymuned. Mae mwyafrif o'r lluniau wedi eu rhoi gan aelodau o'r gymuned, ac fe'u trefnir mewn albymau ar wahân. Mae pob llun wedi'i enwi a'i gapsiynu gyda help a chymorth pobl lleol.

flickr baner albwm


 

Dogfennau Hanesyddol Ardal Talsarnau

bookshelfC

Enwogion Pentref Talsarnau a'r Cylch

Gwybodaeth am bobl nodedig wnaeth gyfraniad arbennig i'r ardal yn ystod eu cyfnod.

Busnesau a Gwasanaethau Lleol



 

 

Mewn Argyfwng - Peiriannau Diffibriliadur

Fideos Lleol Talsarnau a'r Cyffiniau

Treflan fechan ydy Soar yn cynnwys dwy res o dai, tri ty yn y naill a phedwar yn y llall. Mae gweddill y tai unai yn dai ar eu pennau eu hunain neu'n un o ddau. Mae cyfanswm y cyfan yn rhyw ddwsin neu well o dai ac yn y canol mae'r adeilad mwyaf sef Capel Soar, sydd, bellach wedi cau.

Tristwch y sefyllfa yw nad oes oes ond un ty a theulu yn byw ynddo yn barhaol. Tai haf yw'r gweddill. i gyd.