Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Croeso i Dalsarnau

Talsarnau yw'r pentref sy'n ganolbwynt i'r ardal ac wedi ei leoli ar y briffordd A496 rhwng Harlech a Maentwrog. I'r gogledd mae Afon Dwyryd a mynyddoedd Y Rhinogydd i'r de. Yn ffinio â'r pentref megis, mae nifer o dreflannau llai, sef Eisingrug, Glanywern, Llandecwyn, Yr Ynys a Soar.  mwy amdanom nii...

Hanesion y Pentref

Archif Lluniau Talsarnau

Cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol Talsarnau dros y ganrif ddiwethaf, yn dangos bywydau beunyddiol ei thrigolion a chofnod darluniadol o strwythur a fframwaith y gymuned. Mae mwyafrif o'r lluniau wedi eu rhoi gan aelodau o'r gymuned, ac fe'u trefnir mewn albymau ar wahân. Mae pob llun wedi'i enwi a'i gapsiynu gyda help a chymorth pobl lleol.

flickr baner albwm


 

Dogfennau Hanesyddol Ardal Talsarnau

bookshelfC

Enwogion Pentref Talsarnau a'r Cylch

Gwybodaeth am bobl nodedig wnaeth gyfraniad arbennig i'r ardal yn ystod eu cyfnod.

Busnesau a Gwasanaethau Lleol



 

 

Mewn Argyfwng - Peiriannau Diffibriliadur

Fideos Lleol Talsarnau a'r Cyffiniau

Dyma enwau dynion o'r ardal oedd yn gweithio yn y chwareli

Mae'n debyg nad oes llawer yn fyw heddiw sydd yn cofio'r dynion oedd yn arfer gweithio yn y chwareli. Rydwi am geisio rhestru enwau'r rhai oedd yn gweithio yn y chwareli rhwng 1926 a'r Ail Ryfel Byd. Mi gychwynai yn y pentref:

Tom Jones, tad Megan a Bertha, Robert John, Y Garej; Humphrey Williams; Ellis Owen; Robert Jones (tad Iris); Griffith Morgan Williams; Meirion Jones, Isgraig; John Williams a Dei `South'; Tommy Williams a Robin ei fab; Morris Jones; Owen Roberts; Rhys Jones a Glyn; Daniel Evans; William Williams, Trefor Place a'i fab; Meirion Jones a Will; Harri Jones, `Bungalow'; Griffith Roberts a Griffith Henry ; Hugh Owen Hughes; John Roberts a John Gwilym; Owen Morris; Griffith Owen; Bob Richards a Emrys Owen Williams, Rhiw, Evie ac Arthur Williams, Evan a Johnnie; William Roberts, Capel Graig; Robin Williams, Garth Byr; Robin Williams, Ty Canol; Evan Williams, Gwndwn, Evie a David Elwyn;

SOAR:-

Robert Hughes; Dafydd, Tecwyn, Robin, Hywel a Dic; Robert Jones, `Evie'; David Gwilym Williams; David Williams, David Roberts a Griffith John; Ivor Williams; Dafydd Owen, Dic a Will Jones, Capel Fawnog; David Williams, Maescaerau; Edward (Ned) Williams, Canbwlch; Owen Davies, Penbrynpwlldu a John Price (byddai'r ddau yn cerdded i lawr at y Pwerdy, Maentwrog i ddal y bws).

LLANDECWYN:-

Charles Jones, Bryn Moel; William Thomas, (tad Billy); Dafydd Thomas (No.14); Edmund Evans `Borth'; William Jones, Cei Newydd, Daniel a Will; William Williams, Tyrpeg, Bronygarth;

YNYS, GLANYWERN AC EISINGRUG

Gwilym, Dafydd Meirion, Idwal Jones, Pensarn, John a Hugh; William Jones; Evan Jones; Ellis Jones, Eisingrug; Tom Will, Jack Ellis Jones, Tanpenmaen; Eban Richards, John Evie ac Elwyn, Hugh Edwards, Jordan Roberts, Robin Madders; Dafydd Griffith ac Ellis, Yard; William Williams, Tanforhesgan; Richard Jones, Bryntyrion; Dafydd ac Evan, Glyn; Teitus Jones, Cefngwyn; Hugh Williams, Ynys Gifftan, Bob a Dafydd.