Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Croeso i Dalsarnau

Talsarnau yw'r pentref sy'n ganolbwynt i'r ardal ac wedi ei leoli ar y briffordd A496 rhwng Harlech a Maentwrog. I'r gogledd mae Afon Dwyryd a mynyddoedd Y Rhinogydd i'r de. Yn ffinio â'r pentref megis, mae nifer o dreflannau llai, sef Eisingrug, Glanywern, Llandecwyn, Yr Ynys a Soar.  mwy amdanom nii...

Hanesion y Pentref

Archif Lluniau Talsarnau

Cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol Talsarnau dros y ganrif ddiwethaf, yn dangos bywydau beunyddiol ei thrigolion a chofnod darluniadol o strwythur a fframwaith y gymuned. Mae mwyafrif o'r lluniau wedi eu rhoi gan aelodau o'r gymuned, ac fe'u trefnir mewn albymau ar wahân. Mae pob llun wedi'i enwi a'i gapsiynu gyda help a chymorth pobl lleol.

flickr baner albwm


 

Dogfennau Hanesyddol Ardal Talsarnau

bookshelfC

Enwogion Pentref Talsarnau a'r Cylch

Gwybodaeth am bobl nodedig wnaeth gyfraniad arbennig i'r ardal yn ystod eu cyfnod.

Busnesau a Gwasanaethau Lleol



 

 

Mewn Argyfwng - Peiriannau Diffibriliadur

Fideos Lleol Talsarnau a'r Cyffiniau

Ganwyd Ted Breeze Jones yn 1929 yn ardal Cae Clyd, Manod, Blaenau Ffestiniog. Mynychodd ysgolion y Manod a Maenofferen cyn symud i Ysgol Ramadeg Ffestiniog ym 1940.

Collodd ei rieni pan oedd ond 9 oed a chael ei fabwysiadu gan ei ewythr a’i fodryb – Martha a Humphrey Williams, 8 Stryd Dorfil, Blaenau Ffestiniog.


Roedd yn ddarllenwr brwd ac mae’n debyg i lyfr “The Natural History of Selbourne” gael cryn ddylanwad arno a deffro ei ddiddordeb.
Cafodd ysgrifau’r naturiaethwr o Fôn, T G Walker argraff arno, a daeth y ddau ymhen amser yn gyfeillion oes. Yn wir T G Walker berswadiodd Ted Breeze Jones i brynu ei gamera cyntaf.
Wedi gadael coleg, cafodd swydd fel athro yn Nhrawfynydd ym 1950, ac yna yn Ysgol Maenofferen, Blaenau ffestiniog ym 1952 ac yna symudodd i Ysgol Manod ym 1962.
Trwy ei gyswllt â T G Walker y daeth TBJones i adnabod Charles F Tunnicliffe yr arlunydd. Yn ddiweddarach ef fyddai’n tynnu lluniau o arlunwaith Tunnicliffe cyn iddo eu gwerthu.
Datblygodd ffotograffiaeth natur i fod yn brif ddiddordeb ganddo a byddai’n datblygu’r lluniau ei hunan. Ymhen amser daeth ei ffotograffau i amlygrwydd gan ymddangos mewn cylchgronnau megis “Cymru’r Plant,” “Yr Athro,” ac yn ddiweddarach mewn cylchgronnau megis “Birds Monthly Illustrated” a “Country Life” rhwng 1955 a 1960.
Pan sefydlwyd Clwb Camera Blaenau Ffestiniog etholwyd TB Jones yn Gadeirydd arno.
Daeth galw mawr am ei wasanaeth fel darlithydd a theithiodd hyd a lled Gogledd Cymru yn arbennig yn dangos sleidiau i gymdeithasau lleol.
Rhwng 1966 a 1997 cyhoeddodd tua 30 o gyfrolau ac erthyglau di-ri mewn gwahanol gylchgronnau.  Cynhaliai ddosbarthiadau WEA ac Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor ac ymhen amser daeth yn llais cyfarwydd iawn ar radio a theledu.

Dyma englyn gan D O Jones Padog yn clodfori peth o ddawn T B Jones:

 Eiddinwn hir oes i’w ddoniau – a’i grefft
         Sy’n llawn graen, cawn ninnau
     Yma’n awr weld a mwynhau
     Yn llon, holl wefr y lluniau.


Bu T B Jones trwy ei agwedd a ffordd o feddwl yn gyfrwng i ddylanwadu yn gyffredinol ar ffordd pobl o feddwl am fyd natur, yn arbennig felly y Cymry Cymraeg, fel ein bod erbyn heddiw yn llawer mwy parod i warchod, diogelu a pharchu bywyd gwyllt.

Cyfraniad pwysig arall gan T B Jones ar y cyd gyda Peter Hope Jones oedd cyhoeddi rhestr o enwau Cymraeg adar Cymru ym 1974 dan nawdd Yr Amgueddfa Genedlaethol.

Ym 1974 hefyd y priododd ag Anwen ac ymgartrefu yn Llandecwyn.

Drwy’r 1970au hyd at y 1990au bu’n gyfnod byrlymus yn y diddordeb ym myd natur ymysg y Cymry Cymraeg. Chwaraeodd T B Jones ran flaenllaw yn y datblygiad yma. Cynhaliwyd cyrsiau yng Ngwersyll yr Urdd Glanllyn, ym Mhlas Tanybwlch a sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd ym 1978. Gwelwyd cynnydd mewn cyhoeddi cylchgronnau a llyfrau natur Cymraeg, a bwrlwm mewn rhaglenni radio a theledu yn arbennig wedi sefydlu S4C yn 1982

Ymddeolodd T B Jones yn gynnar o’i swydd fel athro ym 1982 a chanolbwyntio ar dynnu lluniau, cyhoeddi a darlledu. Hwn oedd ei gyfnod mwyaf cynhyrchiol fel awdur, yn cyhoeddi nifer fawr o lyfrau ac erthyglau mewn cylchgronnau megis “Y Faner,” “Y Naturiaethwr,” “Cynefin,” “Dan Haul” ac ati.

Roedd cryn alw arno fel darlledwr hefyd yn cyfrannu i Seiat Byd natur ar Radio Cymru. Ar gyfer rhaglen deledu “Awyr Iach” bu’n ffilmio yn Kenya, Sbaen, Moroco, Gambia ac India. Profiadau y bu iddo eu gwerthfawrogi’n fawr, ac a fu’n sail, mwy na thebyg, ar iddo greu rhestr enwau safonol Cymraeg ar adar gwledydd Ewrop.

Bu ei gyfraniad i fyd natur yn sylweddol iawn a llwyddodd i ddeffro ac ennyn diddordeb llawer iawn o Gymry Cymraeg yn y byd naturiol o’u cwmpas. Gadawodd etifeddiaeth naturiol gyfoethog o luniau ac ysgrifau fydd gyda ni, yn drysorau am amser maith.