Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Croeso i Dalsarnau

Talsarnau yw'r pentref sy'n ganolbwynt i'r ardal ac wedi ei leoli ar y briffordd A496 rhwng Harlech a Maentwrog. I'r gogledd mae Afon Dwyryd a mynyddoedd Y Rhinogydd i'r de. Yn ffinio â'r pentref megis, mae nifer o dreflannau llai, sef Eisingrug, Glanywern, Llandecwyn, Yr Ynys a Soar.  mwy amdanom nii...

Hanesion y Pentref

Archif Lluniau Talsarnau

Cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol Talsarnau dros y ganrif ddiwethaf, yn dangos bywydau beunyddiol ei thrigolion a chofnod darluniadol o strwythur a fframwaith y gymuned. Mae mwyafrif o'r lluniau wedi eu rhoi gan aelodau o'r gymuned, ac fe'u trefnir mewn albymau ar wahân. Mae pob llun wedi'i enwi a'i gapsiynu gyda help a chymorth pobl lleol.

flickr baner albwm


 

Dogfennau Hanesyddol Ardal Talsarnau

bookshelfC

Enwogion Pentref Talsarnau a'r Cylch

Gwybodaeth am bobl nodedig wnaeth gyfraniad arbennig i'r ardal yn ystod eu cyfnod.

Busnesau a Gwasanaethau Lleol



 

 

Mewn Argyfwng - Peiriannau Diffibriliadur

Fideos Lleol Talsarnau a'r Cyffiniau

ieuan jones

Ganwyd ym 1924. Cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Talsarnau ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Y Bermo.

 


Gadael Ysgol Bermo pan yn 14 oed oherwydd iddo golli cymaint o ysgol yn dilyn llawdriniaeth llid y berfeddlen (peritonitis). Cafodd le fel gwas yng Nghefn Trefor Isaf gyda William Evans. Yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Edward Lewis Griffiths, Tyín y Bwlch - sef tad y diweddar Iorwerth Griffiths. Oddi yno symudodd i weithio gyda Bob Roberts Merthyr, sef tad y Cynghorydd Caerwyn Roberts, ac yna yn ei dro aeth at John Hughes, Penbryn Pwll Du.

Ym 1944, priodi gyda Tywyna Humphreys, Yr Onnen a chael ei gyflogi gan Idwal Jones Penybryn gan wneud eu cartref cyntaf yn y 'Lodge' Caerffynnon. Ganwyd eu merch, Lona yn 1945.

Ym 1946 cafodd denantiaeth Moel y Glo gan Dafydd Jones Ellis, Rhosigor a bugeilio iddo. Yr amser hynny, roedd yno 1,500 o ddefaid. Yna symud i Yr Onnen yn fugail i Spence Thomas, ac oddi yno symud i Groesor Uchaf yn fugail ar y Cnicht a'r Moelwyn. Yna yn ol i Landecwyn ble bu'n fugail a gwas i Edward Roberts Y Plas a byw yng Nghan Coed Isaf.

Ym 1950 ganwyd iddynt fab, Medwyn ac yn yr un cyfnod cafodd waith ar y rheilffordd hefo'r gang cynnal a chadw. Yna cafodd ddyrchafiad yn 'Ganger' ac wedyn ei apwyntio fel arolygwr. Bryd hynny roeddynt fel teulu yn byw yn Stabal Mail. Wedi hynny prynu Tegfan, Llandecwyn a chael swydd hefo'r Adran Addysg fel Swyddog Lles.

Bu raid iddo ymddeol yn gynnar yn dilyn iddo gael trawiad ar y galon. Penderfynwyd symud i Ty'n y Coed, Dyffryn Ardudwy ym 1985 gan ail afael yn y ffermio. Bu farw Tywyna ym 1996. Dirywiodd ei iechyd yntau a bu farw yn 2003.
Dechreuodd farddoni yn ifanc ac enillodd lawer o wobrau. Ar y cychwyn byddai'n cystadlu'n lleol mewn eisteddfodau bychain ond buan y dechreuodd gystadlu ymhellach o'i blwyf ei hun fel y deuai llwyddiant i'w ran.

Enillodd tua 20 o gadeiriau, un ohonynt yn Eisteddfod y Wladfa. Daeth hefyd yn agos iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth.

Cyhoeddwyd peth o'i waith mewn llyfryn ym 1976 yn y gyfres Beirdd Bro dan y teitl 'Ieuan Jones, Talsarnau' ac mae ei gerddi buddugol, pan enillodd Cadair y Wladfa i'w gweld mewn llyfr dan y teitl 'Cerddi'r Gadair - Eisteddfod y Wladfa 1965 - 2003'

Mae'n debyg mai un o englynion mwyaf cofiadwy Ieuan Jones ydy'r englyn canlynol -

Mai
Hen Fuwch y borfa uchel - heb aerwy
A bawr heddiw'n dawel,
A dail Mai fel diliau mel
Wedi rhoswellt y rhesel.

Derbyniwyd yr uchod gan ei frawd Geraint R Jones a diochwn yn gynnes iawn iddo