Cysylltwch: 01766 770599    E-bost: 11cilfor@gmail.com

Eglwys Efengylaidd Ardudwy

Cymdeithas o bobol ydi Eglwys Efengylaidd Ardudwy sydd yn ei chyfri’n fraint i gael tystio i Efengyl ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist. Rydym yn cyfarfod yn Y Capel Newydd, ar y stryd yn Nhalsarnau. ( LL47 6TY). Rydym yn eglwys annibynnol gan nad ydym yn perthyn i unrhyw enwad na sefydliad.

Rydym yn cyfarfod ddwywaith ar y Sul.

Am 10:30 cynhelir Oedfa Weddi ac am 6:00 yr hwyr ar gyfer Oedfa Bregethu.

Mae croeso cynnes i bawb.

Awgrymwn eich bod yn mynychu oedfa’r hwyr am eich ymweliad cyntaf.

Hefyd, byddwn yn cyfarfod ar nos Fercher am 7:30 ar gyfer Astudiaeth Feiblaidd a Seiat.

Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i drafod materion sy’n berthnasol i’r Ffydd Gristnogol.

      

Rydym yn cynnal gwahanol weithgareddau yn ystod y flwyddyn, megis ar y Nadolig a’r Pasg a Darlith Gŵyl Ddewi ar ddechrau Mis Mawrth.

Mae croeso i chi gysylltu am fwy o fanylion. Dewi Tudur ydi’r gweinidog.

01766 770953 neu e-bostiwch ar     Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..